|
1,2,(3,4a); 1,4b,5,6,7,8; 1,5,6,8.
Mae, mae,
Y dydd yn d'od i'r duwiol rai,
I felys foli Duw'n ddi-drai
Y'mhlith y rhai sydd frŷ mewn hêdd;
I'r addfwyn Oen, yn canu'n rhwydd,
Ac yn ei ŵydd,
yn hardd eu gwêdd. [WW]
Braf, braf,
Yw meddwl am fath hyfryd haf,
Ei wel'd a'i brofì
gwn y caf;
Yn mlaen yr âf
trwy nerth fy Nuw
Nes myn’d i mewn i'r Ganaan fry,
I fysg y llu sy'n
hardd eu lliw. [WW]
Pwy, pwy
Lawenydd sy' i mi yma'n hwy?
'R wy'n blino ar y byd lle'r wy';
Mae hiraeth trwy fy enaid i
Am gael fy nwyn i maes o'r cnawd,
I gôl fy Mrawd
a'm Priod fry. [WW]
'Fe, 'Fe
A'm carodd cyn bod dae'r na ne',
Aeth dan law'r lleiddiaid
yn fy lle;
A thyma'r ple sydd gyda mi
I glaimio hawl i'r nefoedd lân,
Af trwyddo yn mlaen
i'r Ganaan fry. [WW]
[ Efe,
A'm carodd cyn sylfaenu'r ne',
Aeth dan law'r
lleiddiaid yn fy lle;
Ei haeddiant e' sy'n awr o'm tu,
I deithio'r ffordd i'r nef yn lân,
Af trwyddo ymlaen,
i'r Ganaan fry.] [WW]
Pa le,
Y gwnaf fy noddfa dan y ne',
Ond yn ei glwyfau anwyl e':
Y bicell gre' aeth
dan Ei fron,
Agorodd ffynnon i'm glanhâu;
'Rwy'n llawenhau fod lle yn hon. [HJ]
Yr Oen
Aeth dan fy mhenyd i a 'mhoen,
Ni thawai byth
am dano a sôn;
Ei gariad tirion fydd fy nghân,
Am achub un mor wael ei lun,
A'm tynu i ei hun,
o'r gynneu dân. [DJ]
Y llen,
Sydd rhyngddwy'n awr
a'r nefoedd wen,
A rwyga 'Mhrïod, hyd y nen;
I'r wlad uwch ben, fe'm harwain ef,
I'm llon orphwysfa
dringo câf
Sy'n mynwes Naf, o fewn y Nef. [SR]
Doed, doed,
Yr hyfryd fore goreu 'rioed,
I'r sawl sy'n dilyn ol dy droed,
Pob ofnau ffoed, darfydded braw;
Rho'th gariad im' addfwynaf Oen,
Mi garaf sôn am ddydd a ddaw. [GSC]
- - - - -
Y mae
Y dydd yn d'od i'r duwiol rai,
I felys foli Duw'n ddi-drai
Y'mhlith y rhai sydd frŷ mewn hêdd;
I'r addfwyn Oen, yn canu'n rhwydd,
Ac yn ei ŵydd,
yn hardd eu gwêdd. [WW]
Mae, mae
Yr amser hyfryd yn nesau,
O'm tŷ o glai,
fyn'd tu a'm gwlad:
O'm tŷ o glai, fyn'd tu a'm gwlad:
Nid yma mae 'ngorphwysfa i,
Mae honno frŷ, yn nhŷ fy Nhad. [GSC]
Gwlad, gwlad,
O'r lle 'rwy'n dysgwyl
llwyr ryddhâd,
O law 'ngelynion,
mawr eu brâd,
Trwy rinwedd gwaed
fy Iesu gwiw;
'Does gelyn mwy a ddaw i'r làn,
I'r hyfryd fan,
ar fyr câf fyw. [GSC]
Gwledd, gwledd,
O fywyd a thragwyddol hêdd,
Sydd yn y byd tu draw i'r bedd;
Mor hardd fydd gwedd
y dyrfa i gyd
Sy'n byw ar haeddiant
gwaed yr Oen
O sŵn y boen,
sy yn y byd. [HJ]
WW = William Williams 1717-91HJ = Hugh Jones 1749-1825 DJ = Dafydd Jones 1711-77 SR = Cas. o dros 2000 o Hymnau (S Roberts) 1841 GSC = Grawn-Sypiau Canaan 1805
Tonau [288.888]: gwelir: Dal fi (Er fy ngelynion aml eu rhi) Draw'r wlad (O'r lle'r wy'n dysgwyl llwr ryddhâd) Gwledd gwledd (O fywyd a thragwyddol hedd) Mae gwlad (I'r hon 'rwy'n dysgwyl cael rhyddhad) Mae mae (Yr amser hyfryd yn nesáu) O tyn (Y gorchudd yn y mynydd hyn) Pa le (Y gwnaf fy noddfa dan y ne')? Y llen (Sydd rhyngddwy'n awr â'r nefoedd wen) Yn lle [yn lle] (Pob perchen enaid dan y ne') Yn rhad ('R wy'n disgwyl rywbryd gael iachâd) |
It is, it is,
The day coming for the godly ones,
Sweetly to praise God unebbingly
Amongst those who are above in peace;
To the gentle Lamb, singing freely,
And in his presence,
in a beautiful condition.
Good, good,
Is thinking about such a delightful summer,
To see it and experience it
I know I shall get;
Onward I shall go through
through the strength of my God
Until going into the Canaan above,
Amongst the host who have
a beautiful appearance.
What, what
Joy is there for me here any longer?
I am weary of the world where I m;
There is longing through my soul
To get brought out of my flesh,
To the bosom of my Brother
and my Spouse above.
It is he, he
Who loved me before the earth or heaven,
Who went under the hand of the murderers
in my place;
And this is the plea that I have
To claim a right to holy heaven,
I shall go on throngh
to the Canaan above.
[ It is he,
Who loved me before heaven was founded,
He went under the hand of the
murderers in my place;
His merit is now on my side,
To travel the way to heaven cleanly,
I shall go on through,
to the Canaan above.]
Where,
Shall I make my refuge under heaven,
But in his dear wounds:
The strong spear that went
under His breast,
Opened a fount to cleanse me;
I am rejoicing that there is room in this.
The Lamb
Who went under my penalty and my pain,
I shall never be silent
from mentioning him;
His tender love shall be my song,
For saving one of such a poor condition,
From drawing me himself,
from the blazing fire.
The curtain,
Which is between me now
and blessed heaven,
My Spouse shall rend, up to the sky;
To the land above, he shall lead me,
To my happy resting-place
I shall get to climb
Which is my Master's bosom, within Heaven.
Let the best ever
Delightful morning come,
For those who are following thy footprints,
Let every fear flee, let terror vanish;
Give my love to me, most gentle Lamb,
I love mention of the coming day.
- - - - -
It is
The day is coming for the godly ones,
Sweetly to praise God unebbingly
Amongst those who are above in peace;
To the gentle Lamb, singing readily,
And in his presence,
with their beautiful countenance.
It is,
The delightful time is drawing nigh,
When my soul may get set free,
From my house of clay,
to go towards my land:
Here is not my resting place,
That is above, in my Father's house.
A land, a land,
Away from the place from which I am
awaiting complete freedom,
From the hand of greatly
treacherous enemies,
Through the merit of the blood
of my worthy Jesus;
No enemy shall come up any more
To the delightful place,
where I shall shortly get to live.
A feast, a feast,
Of life and eternal peace,
Which is in the world beyond the grave;
How beautiful shall be the feast
of all the throng
Who are living on the merit
of the blood of the Lamb
Away from the sound of the pain,
that is in the world.
tr. 2018,24 Richard B Gillion
|
|